Gwobrau Mwyaf Cymraeg y Byd
Gwobrau Mwyaf Cymraeg y Byd
Dros 200 o enwebiadau a 4,000 o bleidleisiau’n ddiweddarach, mae Gwobrau Mwyaf Cymraeg y Byd 2026 wedi dod i ben — yn cydnabod a dathlu’r rheiny sydd ar flaen y gad gyda’u defnydd o’r Gymraeg yn ardal ARFOR (Ceredigion, Gwynedd, Sir Gâr a Môn).
Llongyfarchiadau i bawb wnaeth gyrraedd y rhestrau fer, a diolch i bawb fu wrthi’n enwebu a phleidleisio. Cafwyd noson wobrwyo o fri yn Y Maes, Cricieth, ble cyhoeddwyd eich enillwyr ar draws yr wyth categori. Diolch i bawb am eich cefnogaeth parhaus i gymunedau Cymraeg ARFOR.
Cyfryngau Cymdeithasol Mwyaf Cymraeg y Byd = Lisa Eurgain
Busnes Mwyaf Cymraeg y Byd = Cegin Mr Henry
Tacsis Mwyaf Cymraeg y Byd = Tacsi Cromwell
Menter Gymdeithasol Mwyaf Cymraeg y Byd = Tafarn yr Iorwerth
Ieuenctid Mwyaf Cymraeg y Byd = Tec Tarw
Cwmni Rhyngwladol Mwyaf Cymraeg y Byd = Arad Goch
Cynnyrch Mwyaf Cymraeg y Byd = Er Dy Les Di
Gofod Mwyaf Cymraeg y Byd = Llwy a Mwy, Penygroes
